SIARTER IAITH - Y Dreigiau
Y Dreigiau!

Helo! Ni yw'r dreigiau. Rydyn ni'n gyfrifol am arwain gweithgareddau y Siarter Iaith yn yr ysgol. Rydyn ni'n cwrdd yn rheolaidd i drafod unrhyw syniadau neu gweithgareddau i hybu'r iaith Gymraeg yn yr ysgol.
Eleni, rydyn ni wedi llwyddo i;
- Ail-gychwyn Caffi'r Cwm
- Casglu a chyflwyno targedau Siarter Iaith i'r ysgol gyfan
- Cyflwyno i'r rhieni a'r llywodraethwyr am ein taith i'r wobr aur
- Cynnal disgos Seren a Sbarc a Dydd Miwsig Cymru
- Trefnu helfa wyau pasg Cymraeg i'r gymuned
- Ymweld â chartref gofal i ddysgu Cymraeg i'r trigolion
Seren a Sbarc!

Dyma cymeriadau y Siarter Iaith - byddech chi'n gweld nhw o gwympas yr ysgol ac yn ystod gweithgareddau Siarter Iaith!